O dyred/tyred Awdwr hedd (Rho i mi brawf o'th wledd)

(Cwyn enaid helbulus am ryddhad)
1,2,3,5,6,7,8,10;  1,3;  1,4,8,9;  1,5,8,9.
O tyred awdwr hedd,
Rho i mi brawf o'th wledd,
  Drag'wyddol rad:
'Does yma ddim ond trai,
Cystuddiau, poen a gwae,
I'r diwedd yn parhau,
  Mewn anial wlad.

Gwnes addunedau fil,
I gadw'r llwybr cul,
  Ond methu rwy';
Preswylydd mawr y berth,
Chwanego etto'm nerth,
I ddringo'r creigiau serth,
  Heb flino mwy.

Mae pechod o bob gradd,
Yn llwyr am gael fy lladd,
  A minnau'a wan:
O estyn fraich i'th was,
Dangos d'effeithioi ras,
O'r tiroedd anial cas,
  Dwg fi i'r lann.

Mor greulon yw fy nghlwyf,
Ti,Iesu, weli'r wyf
  Bron llwfrhau;
'Does arall ond dy waed
A ddyry im iachâd,
Na dim a nertha'm traed,
  Ond dy fwynhau.

Ond attat mae fy nghri,
'Does arall ond tydi,
  All fy nglanhau:
Mwy haeddiant dwyfol waed,
Na'r pechod mwya' gaed,
A chryfach cariad rhad,
  Na grym fy mai.

Cryfach addewid Duw,
Na'r pechod gwaetha'i ryw,
  Ni saif ê ddim:
'Dyw natur gadarn gref,
Ond dim i dân y nef,
Mae gair o'i enau ef
  Yn fwy ei rym.

Pryd hynny mi âf trwy
Elynion fwy na mwy,
  O ddedwydd ddydd!
Mae meddwl am y wawr,
Y jubil hyfryd fawr,
Yn peri i mi 'n awr,
  Bron fyn'd yn rhydd.

Un olwg ar dy wedd,
A'm cwyd i'r lann o'r bedd,
  I'r goleu clir;
I deithio yn y blaen,
Trwy ganol dw'r a thân,
Er g'lynion fawr a mân,
  I'r sanctaidd dir.

Gwna f'enaid bach ynglŷn,
Duw, wrthyt ti dy hun,
  Gael dy fwynhau;
Ac yna gallaf fyw
Dan gystudd o bob rhyw,
Mewn llawn dawelwch gwiw,
  Byth i barhau.

O gwawria foreu ddydd,
Pan caffwyf fyn'd yn rhydd
  O'm carchar caeth:
Pan doddo dwyfol wrês,
Y pyrth a'r barrau prês,
A minnau fyn'd yn nes
  I ben fy nhaith.
tiroedd anial :: anial diroedd
Un olwg :: Un golwg
         - - - - -

O tyred, Awdwr hedd, 
Rho ini brawf o'r wledd 
  Drag'wyddol rad; 
'Does yma ddim ond trai, 
Cystuddiau, poen, a gwae, 
I'r diwedd yn parhâu, 
  Mewn anial wlad. 

Ni thal pleserau'r byd,
Na'i holl deganau 'nghyd,
  Ddim i'w mwynhâu;
Mae'n hyspryd mewn rhyw gur,
Am fyned cyn bo hir,
I'r man mae gwynfyd pur,
  Byth i barhâu.

Ond wele'r hyfryd wlad,
A dedwydd dŷ ein Tad,
  Draw'r bryniau pell;
Ardaloedd lle y mae
Llawenydd yn ddi-drai,
Ffynhonnau'n dyfyrhâu
  Paradwys well.

          - - - - -

O tyred awdwr hedd,
Rho i'm brawf o'th hedd,
  Dragwyddol rad:
Does yma ddim ond trai,
Cystuddiau, poen, a gwae,
I'r diwedd yn parnau,
  Mewn anial wlad.

Mae torf aneirif fawr,
Yn ddysglaer fel y wawr,
  'Nawr yn y nef;
Trwy ganol gwawd a llid,
A gwrth'nebiadau'r byd,
Ac angeu glas y'nghyd,
  A'i carodd ef.

Yn gwisgo gynau gwyn,
Pan gwelir saint am hyn,
  Dydd sy'n neshau:
Caniadau am ei glwy,
Fydd eu caniadau hwy,
A'r rhei'ny fyddant mwy,
  Byth i barhau.

O tyred awdwr hedd,
A chyfod ni o'r bedd,
  Y pydew prudd:
Ein henaid gruddfan mae,
Am gael ei wir iachau,
O dere dere yn glau,
  Rho ni yn rhydd.

         - - - - -

O tyred awdwr hedd,
Rho imi brawf o'th wledd,
  Dragwyddol rad;
'Does yma ddim ond trai,
Cystuddiau, poen a gwae,
I'r diwedd yn parhau,
  Mewn anial wlad.

Un olwg ar dy wedd
A'm cod i'r lan o'r bedd,
  I'r goleu clir;
I deithio yn y bla'n,
Trwy ganol dw'r a thân,
Er g'lynion fawr a mân,
  I'r sanctaidd dir.

'Does yma ddim i'w gael
Ond rhyw bleserau gwael,
  Na thâl mwynhau;
Mae'm hysbryd mewn rhyw gur,
Am fyned cyn bo hir
I'r man mae gwynfyd pur
  Byth i barhau.

Mae cymmaint yma o boen,
Heb gwmni'r addfwyn Oen,
  Bob awr o'r dydd;
Gelynion creulawn, cry',
Hen lewod mawrion, lu,
A dreigiau'n drygu sy;
  O na bawn rydd!

Ond gweled 'rwyf y wlad,
A dedwydd dŷ ein Tad,
  Tros fryniau pell;
Ardaloedd lle y mae
Ffynonau'n dyfrhau,
Llawenydd yn ddidrai;
  Paradwys gwell.

O tyred Awdwr hedd,
A chyfod ni o'r bedd,
  Y pydew prudd;
Ein henaid griddfan mae
Am gael ei wir iachau;
O dere, dere'n glau,
  Rho ni yn rhydd.
William Williams 1717-91

Tonau [664.6664]:
Bridgewater (<1845)
Dinbych (alaw Gymreig)
God Save the King (1745)
Llanddowror (alaw Gymreig)
  Trinity (<1835)

gwelir:
  Cryfach addewid Duw
  Gwnes addunedau fil
  Iachwdwr dynolryw (Tydi yn unig yw)
  Mae torf aneirif fawr
  O gwawria foreu-ddydd
  O tyred Awdwr hedd (A chyfod ni o'r bedd)
  Y Ffordd a'r Bywyd mawr

(The troubled soul's complaint for freedom)
 
O come, Author of peace,
Give me an experience of thy eternal,
  Free feast:
There is nothing here but ebbing away,
Afflictions, pain and woe,
Continuing to the end,
  In a desert land.

I made a thousand promises,
To keep the narrow path,
  But failing I am;
Resident of the bush,
Increase again my strength,
To climb the steep rocks,
  Without tiring any more.

Sin of every degree, is
Completely wanting to kill me,
  And I am weak:
O stretch out an arm to thy servant,
Show thy effective grace,
From the detestable desert lands,
  Bring me up.

How cruel is my wound,
Thou, Jesus, seest I am
  Almost losing heart;
There is nothing else but thy blood
Shall give me healing,
Nor shall anything strengthen my feet,
  But to enjoy thee.

But unto thee is my cry,
There is no-one else but thee,
  Who can cleanse me:
Greater the merit of divine blood,
Than the greatest sin there is,
And stronger free love,
  Than the power of my fault.

Stronger the promise of God,
Than the sin of the worst kind,
  That shall not withstand it:
The firm, strong nature is
Nothing to the fire of heaven,
A word from his mouth is
  Of greater power.

Then I shall go through
Enemies more than more,
  O happy day!
Thinking about the dawn,
The delightful great jubilee,
Is causing me now,
  Completely to go free.

One sight of thy countenance
Shall raise me up from the grave,
  To the clear light;
To travel forwards,
Through the midst of water and fire,
Despite enemies great and small,
  To the sacred country.

Make my little soul connected,
God, to thee thyself,
  To get to enjoy thee;
And then I shall be able to live
Under afflictions of every kind,
In full, worthy quietness,
  Forever to endure.

O dawn, thou morn of day,
When I shall get to go free
  From my captive prison:
When the divine warmth melts
The portals and the bars of brass,
And I go nearer
  To my journey's end.
::
::
               - - - - -

O come, Author of peace,
Give us an experience of the eternal,
  Free feast;
There is nothing here but ebbing away,
Afflictions, pain, and woe,
Enduring to the end,
  In a desert land.

Neither the pleasure of the world,
Nor all its trinkets altogether,
  Shall pay anything for me to enjoy it;
Our spirit is in some ache,
To go before long,
To the place of pure blessedness,
  Forever to endure.

But see the delightful land,
And the happy house of our Father,
  Over the distant hills;
Regions where there is
Joy unebbing,
Fountains watering
  A better paradise.

               - - - - -

O come, Author of peace,
Give me an experience of thy eternal,
  Free peace:
There is nothing here but ebbing away,
Afflictions, pain, and woe,
Enduring to the end,
  In a desert land.

There is a great innumerable throng,
Shining like the dawn,
  Now in heaven;
Through the midst of scorn and wrath,
And the oppositions of the world,
And dire death altogether,
  That loved him.

Wearing white robes,
When saints are to be seen therefore,
  On the day that is approaching:
Songs about his wound,
Shall be their songs,
And those shall be henceforth,
  Forever to endure.

O come, Author of peace,
And raise us from the grave,
  The sad pit:
Our soul is groaning,
To get its true healing,
O come, come quickly,
  Set us free.

              - - - - -

O come, Author of peace,
Grant me a taste of thy feast,
  Eternal, free;
There is nothing here but ebbing away,
Afflictions, pain and woe,
Continuing to the end,
  In a desert land.

One sight of thy countenance
Will raise me up from the grave,
  To the clear light;
To travel onward,
Through the midst of water and fire,
Despite enemies great and small,
  To the sacred land.

There is nothing here to be had
But some poor pleasures,
  That are not worth enjoying;
My spirit is in some ache,
To go before long
To the place of pure blessedness
  Forever to endure.

There is so much pain here,
Without the company of the gentle Lamb,
  Every hour of the day;
Cruel, strong enemies,
Great old lions, a host,
And dragons that are doing evil;
  O that I would be free!

But seeing I am the country,
And the happy house of our Father,
  Over distant hill;
Regions where there are
Springs watering,
Joy unebbing;
  A better paradise.

O come, Author of peace,
And raise us from the grave,
  The sad pit;
Our soul is groaning
To get its true healing;
O come, come quickly,
  Set us free.
tr. 2020,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~